Mae tri dyn wedi’u harestio yn dilyn marwolaeth dyn mewn damwain ffordd yn Llundain. Mi fethodd car a stopio yn dilyn gwrthdrawiad efo fan Transit wen tua 2 o’r gloch y bore.

Fe gafodd yr heddlu eu galw yn dilyn y digwyddiad yn Enfield, gogledd Llundain, ac adroddiadau fod y fan wedi glanio ar ei tho. Roedd ei gyrrwr 50 oed wedi’i ladd yn syth.

Fe ddaethpwyd o hyd i’r cerbyd arall – car BMW 4×4 – yn ddiweddarach wedi’i adael yn Chingford yn nwyrain y ddinas.

Mae dyn 34 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus, ac mae dau ddyn arall, 26 a 30 oed, hefyd wedi’u harestio mewn cysylltiad efo’r digwyddiad.