Baneri wrth gofeb Frongoch (Llun: Karen Owen)
Heddiw, mae seremoni’n cael ei chynnal ym mhentre’ Frongoch yn Sir Feirionnydd, i nodi canrif ers Gwrthryfel y Pasg 1916 yn Iwerddon.
Fe gafodd hen ddistyllfa wisgi yn y pentre’ ger Y Bala ei throi’n garchar rhyfel. Wedi i’r gwrthryfelwyr gael eu trechu gan luoedd Prydain, fe gafodd nifer o wrthryfelwyr eu carcharu yn Frongoch.
Mae’r pentre’n dal i fod yn gyrchfan ar gyfer Gwyddelod sydd am gofio’r hanes a dathlu’r cysylltiad rhwng y ddwy wlad.
Mae rhai’n honni mai yn Frongoch y daeth nifer o syniadau ynglyn ag Iwerddon Rydd i fod, ac fe aeth nifer o’r gwrthryfelwyr ati i ddysgu’r iaith Wyddeleg.