Fe fydd y cwmni British Home Stores (BHS) yn darganfod heddiw a yw credydwyr yn fodlon cymeradwyo’u cynlluniau i leihau’r rhent ar fwy na hanner eu safleoedd yng ngwledydd Prydain.
Mae perygl y gallai’r cwmni fynd i’r wal oni bai bod modd iddyn nhw dorri eu costau ac atal rhagor o’u 164 o siopau rhag cau.
Bwriad y cwmni yw gofyn i landlordiaid dorri 50% neu 75% oddi ar rent 47 o’r siopau, a thorri’r rhent yn sylweddol ar ragor o siopau.
Bydd y rhent ar 77 o’r siopau’n cael ei thalu’n fisol yn hytrach nag yn chwarterol am dair blynedd.
Colli swyddi
Mae angen i 75% o’r credydwyr gytuno â chynnig y cwmni er mwyn ei weithredu.
Daeth cadarnhad ddechrau’r mis y byddai 370 o staff y cwmni’n colli eu swyddi.
Mae diffyg o £571 miliwn hefyd yng nghynllun pensiwn y cwmni, ac mae’r mater hwnnw yn nwylo’r PPF, y gronfa sy’n gwarchod cynlluniau pensiwn aelodau pe bai cwmni’n mynd i’r wal.
Fe allai cyn-bennaeth BHS, Syr Philip Green orfod cyfrannu at y gronfa er mwyn lleihau’r diffyg yn y cynllun pensiwn.
Gwerthodd Green y cwmni am £1 i Retail Acquisitions fis Mawrth y llynedd, ar adeg pan oedd y cwmni wedi colli £21 miliwn.