George Osborne
Mae disgwyl i’r Canghellor George Osborne amddiffyn ei Gyllideb heddiw ar ôl i doriadau i fudd-daliadau anabledd gael eu sgrapio.
Fe fydd yn paratoi i wynebu Aelodau Seneddol heddiw i esbonio sut mae’n bwriadu llenwi “twll anferth” yn dilyn y tro pedol.
Mae’r Canghellor wedi wfftio honiad Iain Duncan Smith ei fod yn rhoi pobl fwy cefnog cyn y rhai mwyaf bregus.
Roedd disgwyl i’r toriadau arfaethedig i’r Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) arbed cyfanswm o £4.4 biliwn o’r gyllideb les erbyn 2020 fel rhan o ymrwymiad George Osborne i leihau’r gwariant ar fudd-daliadau o £12 biliwn y flwyddyn.