Seremoni gan y Panchakanya yn ei groesawu i Kathmandu
Mae’r Tywysog Harry wedi cael croeso yn Nepal gan bump o wyryfon mewn seremoni draddodiadol.

Cafodd ei anrhegu â blodau gan y Panchakanya – sy’n golygu ‘pump o wyryfon’ yn yr iaith Sanskrit – cyn seremoni yn Sgwar Durbar yn Kathmandu.

Roedd y seremoni’n symbol o lwc dda a phurdeb.

Cafodd rhannau helaeth o’r brifddinas eu dinistrio gan ddaeargryn fis Ebrill diwethaf a laddodd 9,000 o bobol.

Dywedodd un o’r gwyryfon eu bod yn ei groesawu i’w gwlad “gyda chalonnau agored”.