Prynhawn da! Mae disgwyl i Gymru gael ei chrybwyll sawl gwaith gan y Canghellor George Osborne wrth iddo gyflwyno’i Gyllideb. Ymhlith y polisïau a allai godi mae torri tollau pontydd Hafren, cyflwyno pecyn o fuddsoddiadau yng ngogledd Cymru a chreu parth menter Port Talbot.

Eisoes y bore ‘ma, mae Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Jane Hutt wedi bod yn amlinellu’r hyn yr hoffai ei glywed yn araith Osborne, sef:

–          Penderfyniad ar ddyfodol prosiect Morlyn Llanw Bae Abertawe, a’i ddatblygu fel rhan o brosiect Rhanbarth Ddinesig Bae Abertawe

–          Datganoli tollau awyr i Gymru

–          Trydaneiddio rheilffyrdd yn y de a’r gogledd

Amser a ddengys beth fydd cyllideb Osborne yn ei gynnig i Gymru.

14.01 – Mae araith Jeremy Corbyn wedi dod i ben, ond un peth sy’n sicr. Megis dechrau mae’r trafod arni hi ac ar Gyllideb George Osborne. Ond dyna ni am y tro ar flog byw Golwg360.

14.00 – Parhad llymder yn “ddewis gwleidyddol” ac nid yn “anghenraid economaidd”, medd Corbyn

13.59 – “Cylch o fuddsoddi isel a chynhyrchiant isel” sydd gan Brydain, medd Corbyn

13.58 – Corbyn yn croesawu’r cyhoeddiadau am fuddsoddiadau, ond “wedi dod yn rhy hwyr”, meddai

13.57 – Corbyn yn lladd ar y llywodraeth am dorri gwasanaethau’r heddlu

13.55 – “Os gellir ariannu amryw sectorau, pam na ellir ariannu urddas pobol anabl?” 

13.54 – Ond arweinydd Llafur yn cefnogi’r polisi o godi treth ar ddiodydd siwgr

13.54 – Y polisi o greu academi addysg yn cuddio ffaeleddau’r system addysg yn Lloegr, medd Corbyn

13.53 – Y gyllideb sgiliau wedi gostwng 35%, medd Corbyn

13.52 – Corbyn yn galw am gefnu ar doriadau i’r gwasanaethau brys ac i ddiwydiant yr amgylchedd

13.51 – Torri a phreifateiddio yw ateb George Osborne i argyfyngau, medd Corbyn

13.50 – Y Ceidwadwyr yn cosbi menywod drwy gynlluniau trethi, medd Corbyn

13.48 – Corbyn yn ein hatgoffa am “ddinas goediog Ebbsfleet” – cynllun sydd heb gael ei wireddu, meddai 

13.47 – Gormod o ddibyniaeth ar fenthyg er mwyn hybu’r economi, medd Corbyn

13.46 – Meinciau cefn y Ceidwadwyr yn tarfu o hyd ar ymateb Corbyn

13.45 – Corbyn yn beirniadu’r llywodraeth am dan-fuddsoddi yng ngogledd Lloegr, ac yn dadlau mai gwaith i bobol yn ne Lloegr fydd yn cael ei greu

13.44 – Corbyn yn lladd ar y Ceidwadwyr am esgeuluso’r diwydiant dur

13.43 – “Cyfraddau cyfeillion” fydd gwaddol y Ceidwadwyr, dadleua Corbyn

13.42 – “Rhethreg” yw addewidion y Ceidwadwyr – Corbyn

13.41 – IFS yn dweud mai’r “lleiaf cyfoethog sydd wedi diodde’r colledion mwyaf”, medd Corbyn

13.40 – “Annhegwch” wrth wraidd y Gyllideb, ychwanega Corbyn  

13.39 – “Cau pen y mwdwl ar chwe blynedd o fethiannau” a wna’r Gyllideb, medd Corbyn

13.38 – Jeremy Corbyn ar ei draed

13.37 – Dyna ddiwedd araith George Osborne. Cawn glywed gan arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn yn y man

13.36 – “Cyllideb fel nad oes angen i’r genhedlaeth nesaf dalu dyledion y genhedlaeth bresennol,” medd Osborne

13.35 – Lwfans personol heb dreth i godi i £11,500

13.34 – Trothwy treth i godi i £45,000 ar gyfer yr haen uchaf yn y gymdeithas 

13.31 – Sylw Osborne yn troi at gynilon drwy ISA – y terfyn yn codi i £20,000 o £15,000 cyn bod rhaid talu treth. Cynlluniau’n cael eu hymestyn i roi cymorth i brynwyr tai tro cyntaf – y Llywodraeth yn ariannu’r cynllun yn rhannol 

13.29 – Treth enillion cyfalaf yn cael ei thorri o 18% i 10% o 2018 ymlaen

13.28 – Diddymu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 – Osborne nawr yn cyhoeddi polisi dadleuol ar ‘weithwyr hunangyflogedig’ (rheiny sy’n defnyddio dull o osgoi talu trethi)

13.27 – Rhewi’r dreth ar gwrw, seidr, whisgi a gwirodydd – alcohol arall i godi yn ddibynnol ar chwyddiant

13.27 – Y dreth tybaco i godi 2%

13.26 – Osborne nawr yn trafod prisiau petrol, sydd wedi gostwng dros y flwyddyn ddiwethaf. Rhewi’r dreth ar betrol am y chweched flwyddyn yn olynol

13.25 – £12 miliwn o’r ‘dreth tampon’ i elusennau menywod ac i Comic Relief

13.24 – Arian Libor – sef cosbi’r banciau – yn cael ei fuddsoddi mewn ysbytai

13.23 – Disgwyl i’r polisi godi £520 miliwn, a’r arian yn cael ei fuddsoddi mewn chwaraeon mewn ysgolion yn Lloegr

13.22 – Treth ar gwmniau diodydd ysgafn erbyn 2018 yn seiliedig ar lefelau siwgr mewn diodydd – fydd hyn ddim yn effeithio ar sudd na llaeth

13.21 – Osborne wedi troi ei sylw at ddiodydd ysgafn a gordewdra – polisi a gafodd ei grybwyll eisoes gan Blaid Cymru yma yng Nghymru 

13.20 – £0.5 biliwn ychwanegol i gyrraedd targedau addysg yn Lloegr – cyflwyno fformiwla ariannu newydd “er tegwch i bawb”

13.20 – Arian ychwanegol fel bod holl ysgolion Lloegr yn dod yn Academi erbyn 2020

13.19 – Amgueddfeydd i dalu llai o drethi

13.19 – £13 miliwn i Hull, dinas diwylliant Prydain

13.18 – Gwariant ar amddiffynfeydd yn erbyn llifogydd i gynyddu – £700 miliwn ychwanegol 

13.17 – Osborne yn datgan cefnogaeth i HS3 rhwng Manceinion a Leeds, ac i Crossrail yn Llundain

13.16 – Cynlluniau’n cael eu cyhoeddi nawr i wella ffyrdd a rheilffyrdd yng ngogledd Lloegr fel rhan o bwerdy’r ardal

13.15 – Fel y disgwyl, Osborne yn cyhoeddi cynlluniau i roi cymorth i bobol ddigartref

13.14 – Cymorth i brynu tai i bobol yn ne orllewin Lloegr yn cael ei gyhoeddi

13.13 – Cyfraddau busnes yn cael eu datganoli i ddinas Llundain dair blynedd yn gynharach na’r disgwyl

13.12 – “Chwyldro datganoli ar droed”, medd Osborne

13.11 – Manceinion i gael pwerau ar dorcyfraith, a bydd nifer o ddinasoedd yn cael ethol Maer am y tro cyntaf

13.11 – Torri tollau pontydd Hafren yn eu hanner erbyn 2018

13.10 – Pwerau newydd i Gymru – trafodaethau ar y gweill i greu rhanbarth ddinesig yn Abertawe

13.10 – “Y datganoli mwyaf erioed”, medd Osborne – cytundeb dinesig i Gaeredin

13.09 – Osborne nawr yn lladd ar economi’r Alban ac yn canmol eu penderfyniad i aros yn rhan o’r DU

13.08 – Diddymu’r dreth refeniw petrol, a hynny o Ionawr 1 eleni

13.07 – Diddymu’r dreth carbon, ac Osborne yn cyhoeddi buddsoddiad yn y diwydiant gwyrdd

13.06 – Treth stamp yn cael ei addasu – 5% ar eiddo gwerth mwy na £250,000 – y drefn newydd yn cael ei chyflwyno am hanner nos heno

13.03 – Trothwy treth i helpu busnesau wedi cael ei godi o £6,000 i £15,000

13.02 – Cyflwyno lwfansau ar gyfer ‘trethi digidol’ 

13.01 – Mesurau llym yn cael eu gosod ar fusnesau rhyngwladol sy’n ceisio osgoi talu trethi, a’r dreth gorfforaeth i ostwng 17% erbyn 2020

13.00 – Osborne yn trafod sut y bydd y llywodraeth yn addasu’r dreth gorfforaeth, fel bod busnesau mawr yn cael eu cosbi a busnesau bychain yn cael cymorth 

12.58 – Osborne bellach yn trafod codi trethi ar fusnesau 

12.56 – Osborne yn disgwyl bwrw targedau i leihau’r diffyg erbyn 2020 

12.55 – Y bobol gyfoethocaf yn y gymdeithas yn talu mwy o dreth nag erioed o’r blaen, medd y Canghellor 

12.55 – £12 biliwn i gael ei godi drwy atal y fath ddulliau, medd Osborne

12.54 – Osborne wedi troi ei sylw bellach at ddulliau o osgoi talu trethi 

12.53 – Benthyg £72.2 biliwn yn 2015, ond £38.8 biliwn erbyn 2017-18 

12.52 – Disgwyl i ddyledion gyrraedd 82.6% y flwyddyn nesaf, 74.7% erbyn 2020-21

12.51 – Disgwyl i’r diffyg ostwng i 2.9% y flwyddyn nesaf

12.50 – “Rhaid sicrhau bod pensiynau’n gynaliadwy,” ychwanega’r Canghellor

12.49 – Cyllideb i’r anabl i godi i’w lefel uchaf o dan y Ceidwadwyr, medd Osborne

12.48 – Disgwyl i wariant ostwng i 36.9% o GDP erbyn 2020

12.47 – Osborne yn dweud na fydd Llywodraeth Prydain yn cynyddu eu gwariant er mwyn lleihau’r diffyg ariannol

12.45 – “Gweithredu nawr rhag talu wedyn” yw prif neges Osborne eleni

12.43 – Ymyrraeth am y tro cyntaf gan y Dirprwy Lefarydd, Lindsay Hoyle, sy’n galw am ddistawrwydd   

12.42 – Osborne yn ategu barn arbenigwyr sy’n honni y byddai economi Prydain yn gwanhau o adael yr Undeb Ewropeaidd

12.41 – Disgwyl i GDR dyfu 2% eleni, 2.2% yn 2017, a 2.1% am dair blynedd wedi hynny hyd at 2020

12.40 – Osborne yn dweud y bydd Prydain yn benthyg llai o arian unwaith eto’r flwyddyn nesaf

12.37 – Osborne yn mynnu bod economi’r DU yn gryf

12.36 – George Osborne “am roi’r genhedlaeth nesaf yn gyntaf”