Mae ffigurau diweddaraf Llywodraeth Cymru’n dangos bod amseroedd aros canser wedi gwella ar y cyfan.

Ym mis Ionawr 2016, cafodd 86.5% o gleifion ddechrau ar eu triniaeth o fewn yr amser targed o 62 diwrnod o gael eu cyfeirio ar frys gan eu meddygon teulu.

Cynyddodd 0.3% ers mis Rhagfyr 2015 a dyma’r ffigwr gorau ers mis Gorffennaf 2015.

Ar gyfer achosion sydd ddim yn rhai brys, dau o fyrddau iechyd Cymru a lwyddodd i gyrraedd y targed o 98% o gleifion yn cael eu trin o fewn 31 diwrnod.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething, ei fod am weld pob bwrdd iechyd yn “perfformio’n” gyson ar amseroedd aros canser.

Tri bwrdd iechyd ar y brig

Roedd tri bwrdd iechyd, Betsi Cadwaladr, Aneurin Bevan a Hywel Dda wedi llwyddo i drin dros 90% o’u cleifion canser o fewn yr amser targed.

Galw am wella

Ym mis Hydref 2015, gofynnodd Vaughan Gething i bob un o fyrddau iechyd Cymru lunio cynlluniau 100 diwrnod i wella gwasanaethau canser.

“Dros y 12 mis diwethaf, dechreuodd mwy na 16,000 o bobl ar eu triniaeth ar gyfer canser yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, a chafodd 14,926 eu trin o fewn yr amser targed,” meddai.

“Dw i’n falch o weld gwelliant yn nifer y bobl sydd newydd gael diagnosis o ganser sy’n dechrau ar eu triniaeth o fewn y targed o 62 o ddiwrnodau.

“Mae dau o fyrddau iechyd Cymru yn trin mwy na 90% o gleifion o fewn yr amser targed yn gyson. Ond, dw i am i bob bwrdd iechyd gyflawni lefelau uchel o berfformiad yn gyson fel bod pobl â chanser yn gallu cael triniaeth yn brydlon.”