David Cameron
Mae ymgyrchwyr sydd o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn annog David Cameron i atal cynlluniau i ganiatáu i Dwrci ymuno a’r Undeb.

Mae’r AS Ceidwadol David Davis wedi rhybuddio bod Twrci yn “dalaith mewn argyfwng” ac y byddai’r canlyniadau o’i chaniatáu i ymuno a’r UE yn “drychinebus”.

Daw ei ymyrraeth wrth i David Cameron baratoi i deithio i Frwsel ddydd Iau ar gyfer trafodaethau pellach ynglŷn â chytundeb a allai weld Twrci yn helpu i leddfu’r llif o ffoaduriaid i Ewrop yn gyfnewid am gyflymu’r broses o ymuno’r UE.