Myfyrwyr yn cymryd rhan yn yr ymgyrch Byw yn Gymraeg
Mae cynrychiolydd myfyrwyr  wedi croesawu penderfyniad y Cynulliad i wneud i’r Llywodraeth feddwl eto am y safonau iaith ar gyfer prifysgolion Cymru.

“Mae’r canlyniad yn fuddugoliaeth i fyfyrwyr ledled Cymru, i’r Gymraeg ac i ddemocratiaeth, ” meddai Steffan Bryn, Swyddog y Gymraeg i Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn dilyn y bleidlais ddydd Mawrth.

“Mae oedi’r broses yn cynnig cyfle gwirioneddol rŵan i sicrhau Safonau pendant i lety cyfrwng Cymraeg, adborth Cymraeg ar waith Cymraeg, systemau technoleg gwybodaeth ddwyieithog a hawl i’r Gymraeg ym mhob cyd-destun, nid rhestr gul o weithgareddau.”

‘Cadw llygad barcud’

 

Roedd myfyrwyr wedi teithio i’r Cynulliad i fynegi eu gwrthwynebiad ac mae olynydd Steffan Bryn yn dweud y bydd y pwysau’n parhau.

“Byddwn yn cadw llygad barcud ar Lywodraeth nesaf Cymru i sicrhau eu bod yn ateb ein dyhead i fyw yn Gymraeg – gyda Safonau pendant wedi’u llunio gyda buddiannau myfyrwyr a’r cyhoedd yn ganolbwynt iddyn nhw, nid diddordebau sefydliadau mawrion,” meddai Osian Wyn Morgan, sydd wedi ei ethol yn Swyddog y Gymraeg Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd y flwyddyn nesa’.