Y lladrad emwaith yn Hatton Garden (llun: PA)
Mae pum dyn wedi cael eu carcharu ar ôl dwyn gwerth £14miliwn o emwaith o Hatton Garden yn y “lladrad mwyaf yn hanes Prydain.”

Cafodd John “Kenny” Collins, 75, Daniel Jones, 61, Terry Perkins, 67, a William Lincoln, 60, eu carcharu am saith mlynedd yr un, tra bod Carl Wood, 59, yn wynebu chwe mlynedd dan glo.

Cafodd chweched dyn, Hugh Doyle, ddedfryd o 21 mis wedi’i ohirio am ddwy flynedd yn Llys y Goron Woolwich heddiw.

Roedd y lladron wedi cynnal cyrch “soffistigedig” a manwl iawn ar 73 o flychau diogel yn ardal Hatton Garden dros benwythnos y Pasg y llynedd.

Roedden nhw wedi tyllu twll yn wal y celloedd gan ddwyn aur, diemwntau a saffirau gwerth £14miliwn.

Nid yw’r rhan fwyaf o’r nwyddau gwerthfawr wedi cael eu canfod eto.