Mae Cyfarwyddwr Cynnwys a Darlledu S4C, Dafydd Rhys, wedi cyhoeddi heddiw y bydd yn rhoi’r gorau i’w rôl ar ôl cyfnod o bum mlynedd yn y swydd.

Daw penderfyniad Dafydd Rhys ychydig ddyddiau ar ôl ymgyrch ddadleuol S4C i osod isdeitlau Saesneg awtomatig ar rai o raglenni’r sianel am bum diwrnod.

Ond mynnodd llefarydd ar ran S4C wrth golwg360 nad oedd y cyhoeddiad ddydd Mercher yn ddim i’w wneud â’r helynt isdeitlau, a bod y penderfyniad wedi cael ei wneud “ymhell” cyn yr ymgyrch.

Amddiffyn yr ymgyrch

Roedd Dafydd Rhys un o uwch-swyddogion y sianel a fu’n amddiffyn yr ymgyrch, gan fynnu nad “arbrawf” i ddwyieithogi’r sianel oedd y nod.

Fe fydd yn parhau yn ei swydd tan ddiwedd y flwyddyn.

“Dw i’n ddiolchgar iawn i Dafydd am ei waith diflino dros y pedair blynedd diwethaf i sicrhau arlwy cyffrous ac amrywiol o safon uchel ar y Sianel,” meddai Ian Jones, Prif Weithredwr S4C.

“Bydd Dafydd yn parhau gydag S4C tan ddiwedd y flwyddyn, ond hoffwn ddymuno pob llwyddiant iddo i’r dyfodol.”