Fe fydd miloedd o feddygon iau yn dechrau streicio yn Lloegr ddydd Mercher yn dilyn ffrae â Llywodraeth Prydain tros gytundebau newydd.

Mae mwy na 5,000 o lawdriniaethau wedi cael eu canslo yn sgil y streic 48 awr, ac mae disgwyl i apwyntiadau lu gael eu heffeithio.

Mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Hunt wedi datgan y bydd yn gorfodi’r cytundeb newydd ar feddygon iau yn dilyn misoedd o drafodaethau gyda chymdeithas feddygol y BMA, sydd wedi dod i ben heb fod y ddwy ochr yn cydweld.

Dim ond gofal brys fydd ar gael gan feddygon iau ddydd Mercher a dydd Iau, ac mae disgwyl iddyn nhw streicio eto ar Ebrill 8 ac Ebrill 26.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr fod disgwyl i’r streic roi cryn bwysau ar wasanaethau.

Ond fe fydd gwasanaethau gofal brys ac argyfwng yn parhau fel arfer.

Mae cleifion wedi cael eu cynghori i droi at eu meddygon teulu lle bo’n briodol, neu eu fferyllydd neu wasanaeth 111 y Gwasanaeth Iechyd.

Cytundeb

 

Mae’r BMA yn awyddus i sicrhau adolygiad barnwrol o’r penderfyniad i gyflwyno cytundebau newydd yn groes i ddymuniadau meddygon iau.

Maen tramgwydd ar hyn o bryd yw’r tâl y bydd meddygon iau yn ei dderbyn dros y penwythnos, ac maen nhw’n ceisio hawlio tâl ychwanegol am weithiau yn ystod oriau anghymdeithasol.

Ond roedd Llywodraeth Prydain wedi cynnig codi’r cyflog sylfaenol ar gyfer dydd Sadwrn.

Cafodd y cynnig hwn ei wrthod gan y BMA, gan annog Jeremy Hunt i dderbyn y cynnig i leihau’r codiad cyflog o 11% a chodi’r tâl ar gyfer gweithio ar ddydd Sadwrn.

Mae disgwyl i’r cytundeb newydd – sy’n cynnig codiad cyflog o 13.5% – ddod i rym ym mis Awst.

Mae Jeremy Hunt wedi addo gwarchod cyflogau meddygon iau sy’n gweithio oriau penodol, a thorri oriau nos a shifftiau hir.

Byddai disgwyl i feddygon weithio o 7 y bore tan 5 y prynhawn ddydd Sadwrn, ac fe fyddai meddygon sy’n gweithio mwy nag un dydd Sadwrn o bob pedwar yn derbyn premiwm o 30%.