Y Frenhines
Mae Palas Buckingham yn mynnu bod y Frenhines yn “wleidyddol niwtral”, gan wfftio adroddiadau ei bod hi’n awyddus i weld Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl papur newydd y Sun, roedd hi wedi mynegi barn wrth-Ewropeaidd wrth Nick Clegg yn ystod cinio yng nghastell Windsor pan oedd e’n Ddirprwy Brif Weinidog.

Cafodd yr honiadau eu gwadu gan gyn-arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, ac fe wrthododd Palas Buckingham wneud sylw pellach.

Dywedodd y Sun “nad oedd unrhyw amheuaeth” ynghylch barn y Frenhines.

‘Gwleidyddol niwtral’

Dywedodd llefarydd ar ran Palas Buckingham: “Mae’r Frenhines yn parhau’n wleidyddol niwtral, fel y bu hi ers 63 o flynyddoedd.

“Wnawn ni ddim gwneud sylw ar honiadau gan ffynonellau amheus. Mae’r refferendwm yn fater i bobol Prydain ei benderfynu.”

Dug Caergrawnt

 

Fis diwethaf, cafodd araith gan Ddug Caergrawnt ei dadansoddi gan rai fel galwad ar i Brydain aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

Cyfeiriodd at allu Prydain i “uno i weithredu gyda’n gilydd” mewn “byd cythryblus”, gan dynnu sylw at “ein diogelwch a’n llewyrch”.

Ond roedd llefarydd ar ran Palas Kensington yn mynnu nad oedd yn cyfeirio at Ewrop pan wnaeth y sylwadau.