Mae nifer yr achosion o droseddau rhyw yn erbyn plant sy’n cael eu hadrodd i’r heddlu wedi cynyddu traean yng Nghymru a Lloegr, ac mae bellach 113 ohonynt bob dydd, yn ôl elusen blant.

Yng Nghymru fe fu cynnydd o 21% y llynedd, meddai NSPCC Cymru gyda’r heddlu’n cofnodi 1,753 o droseddau yn 2014/15 o’i gymharu â 1,446 o droseddau rhyw yn erbyn plant yn 2013/14.

Heddlu Gwent oedd wedi gweld y cynnydd mwyaf o 226 i 389 yn 2014/15; cynnydd o 72%.

O’r troseddau, lle cafodd rhyw y dioddefwr yng Nghymru a Lloegr ei chofnodi, roedd 30,393 yn ferched a 7,639 yn fechgyn.

Dywedodd prif weithredwr yr NSPCC, fod y cynnydd “dramatig” hwn yn “destun pryder mawr.”

“Gall gamdriniaeth rywiol chwalu iechyd meddwl plentyn. Gall eu gadael yn bryderus, yn isel eu hysbryd a hyd yn oed eu gwneud i feddwl am hunanladdiad,” meddai Peter Wanless.

“Dyna pam ei fod yn hanfodol bod pob plentyn sydd wedi dioddef yn cael cymorth amserol a manwl er mwyn iddynt ddysgu sut i ddelio ag emosiynau ac ymddygiadau annifyr ac ail-adeiladu eu bywydau.”

Dros 10,000 yn 10 oed neu’n iau

Ymhlith yr heddluoedd yng Nghymru a Lloegr a wnaeth roi manylion am oedran y dioddefwyr, roedd 10,757 ohonynt yn 10 oed neu’n iau, gan gynnwys 2,409 oedd yn llai na phedair oed.

Dywedodd yr elusen y gallai nifer o ffactorau fod tu ôl i’r cynnydd, gan gynnwys newidiadau yn y ffordd y mae’r heddlu yn cofnodi troseddau, anogaeth i ddioddefwyr siarad am eu profiadau yn dilyn achosion “amlwg” o gam-drin sydd wedi  cael sylw yn y cyfryngau, a chynnydd o droseddau o’r fath ar-lein.

Mae’r elusen wedi lansio ymgyrch o’r enw It’s Time, sy’n galw ar  Lywodraeth San Steffan i gynyddu cyllid gwasanaethau cymorth i blant sydd wedi  cael eu cam-drin.