Gallai cyfreithloni canabis godi £1 biliwn y flwyddyn mewn treth a lleihau peryglon iechyd, yn ôl adroddiad newydd.
Mae’r adroddiad, a gafodd ei gomisiynu gan y Democratiaid Rhyddfrydol, yn awgrymu y dylai’r cyffur fod ar gael mewn siopau arbenigol i bobol sy’n 18 oed neu’n hŷn.
Bydd y blaid yn cynnal dadl ar ganfyddiadau’r awduron, sy’n cynnwys panel o wyddonwyr, academyddion a phenaethiaid heddlu, yn ei chynhadledd wanwyn yn ddiweddarach yr wythnos hon.
“Bob blwyddyn, mae biliynau o bunnoedd yn mynd i bocedi troseddwyr sy’n gwerthu canabis ac mae amser ac adnoddau’r heddlu yn cael eu gwastraffu yn mynd ar ôl pobol sy’n defnyddio’r cyffur,” meddai llefarydd iechyd y Democratiaid Rhyddfrydol, Norman Lamb.
Gwahardd canabis ‘wedi methu’
Ychwanegodd arweinydd y blaid yn San Steffan, Tim Farron, fod “gwahardd canabis wedi methu”.
“Mae angen dull newydd, mwy clyfar arnom ac rydw i’n croesawu’r adroddiad cyn y ddadl yng nghynhadledd wanwyn y Democratiaid Rhyddfrydol.”
Yn ôl cadeirydd y panel o awduron yr adroddiad, Steve Rolles, mae “angen dybryd” i’r llywodraeth ddechrau rheoli’r fasnach a thynnu pŵer o werthwyr sydd ddim yn cael eu rheoli.
“Mae rheoli cyfreithiol bellach yn gweithio’n dda yn Colorado a Washington a bydd yn cael ei gyflwyno ledled yr Unol Daleithiau dros y blynyddoedd nesaf,” meddai.
“Mae hon bellach yn ddadl ymarferol – ac mae’r dystiolaeth sy’n codi yn pwyntio i’r un cyfeiriad yn unig.”