Y Llys Apêl
Mae dau ddyn a gafwyd yn euog o ladd merch 15 oed o Gaerdydd, wedi colli eu hapêl yn erbyn eu dyfarniadau.

Cafwyd hyd i gorff Karen Price wedi ei lapio mewn carped ar Fitzhamon Embankment yng Nghaerdydd ym mis Rhagfyr 1989.

Roedd hi wedi diflannu yn 1981 ar ôl dianc o gartref gofal i blant ond ni chafwyd hyd i’w gweddillion tan wyth mlynedd yn ddiweddarach.

Ym 1991 cafodd Alan Charlton o Wlad yr Haf ac Idris Ali o Gaerdydd eu carcharu am oes am lofruddio Karen Price.

Roedd y ddau wedi apelio yn erbyn eu dyfarniadau ym mis Tachwedd 1994. Fe fethodd apêl Charlton ond cafodd y dyfarniad yn erbyn Ali ei ddiddymu a gorchmynnodd y barnwr y dylid cynnal achos newydd.

Cyn i’r achos newydd gael ei gynnal fe blediodd Ali yn euog i gyhuddiad o ddynladdiad a chafodd ei ddedfrydu i chwe blynedd o garchar. Ond oherwydd yr amser roedd eisoes wedi ei dreulio dan glo, cafodd ei ryddhau.

Roedd y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol (CCRC) wedi cyfeirio’r ddau achos at y Llys Apêl ar y sail bod yna bosibilrwydd nad oedd eu dyfarniadau yn ddilys.

Ond fe ddyfarnodd tri barnwr heddiw y dylid gwrthod apêl y ddau.