Mae’r Llys Apêl wedi dyfarnu nad yw’r gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus yn berthnasol i garchardai a safleoedd eraill y Goron yng Nghymru a Lloegr.
Roedd tri barnwr wedi caniatáu apêl gan y Llywodraeth yn erbyn dyfarniad yr Uchel Lys y dylai’r gwaharddiad gynnwys yr holl lefydd cyhoeddus a gweithleoedd, gan gynnwys y rhai hynny sy’n dod dan ofal y Goron.
Ond fe ddyfarnodd y barnwyr nad oedd y ddeddfwriaeth yn berthnasol i’r Goron.
Roedd cyfreithwyr ar ran y Llywodraeth wedi rhybuddio’r llys mewn gwrandawiad blaenorol y gallai gwahardd ysmygu mewn carchardai achosi problemau disgyblaeth a pheryglu diogelwch staff a charcharorion.