Galw ar Syr Jeremy Heywood i egluro canllawiau
Mae galw ar brif was sifil Prydain, Syr Jeremy Heywood i egluro pam nad oes gan weinidogion y llywodraeth sy’n cefnogi gadael yr Undeb Ewropeaidd yr hawl i gael mynediad i bapurau’r llywodraeth ar y mater.

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Heywood y byddai’r gwasanaeth sifil yn cefnogi’r llywodraeth wrth iddyn nhw baratoi i egluro pam y dylai’r DU aros yn aelod o Ewrop diwygiedig.

Ond fe ddywedodd na ddylai unrhyw un oedd yn gwrthwynebu aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd gael mynediad i ddogfennau ar y mater.

Fe fydd yn gorfod egluro’i benderfyniad wrth y Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus ddydd Mawrth.

Bydd y refferendwm yn cael ei gynnal ar Fehefin 23.

Polisi Llywodraeth Prydain yw cefnogi aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd, ac mae’n ddyletswydd ar weision sifil i’w cefnogi.

Mae pump o weinidogion yn cefnogi gadael yr Undeb Ewropeaidd, sef Iain Duncan Smith, Chris Grayling, John Whittingdale, Theresa Villiers a Michael Gove.