Symbol yr ymgyrch (o wefan yr elusen)
Fe allai nifer y dynion sy’n marw o ganser y prostad godi o tua 30% yn ystod y deng mlynedd nesa’, meddai elusen.

Mae Canser y Prostad UK wedi dechrau ymgyrch ddeng mlynedd i geisio gwella’r ffordd y mae’r clefyd yn cael ei drin – o ran deiagnosis, triniaeeth ac atal.

Os na fydd hynny’n digwydd, medden nhw, fe fydd nifer y marwolaethau yng ngwledydd Prydain y codi o 10,900 ar hyn o bryd i tua 14,500 erbyn 2026.

Meddalwedd newydd

Rhan o’r ymgyrch yw meddalwedd newydd y bydd doctoriaid yn gallu ei roi ar eu cyfrifiaduron i ddadansoddi manylion cleifion a sylwi ar y clefyd ynghynt.

Fe allai hynny newid pethau yn llwyr er gwell, meddai’r gwyddonydd Syr Robert Winston, sy’n cefngi’r ymgyrch.

Fe fyddai’r feddalwedd hefyd yn rhoi cyfarwyddyd i’r meddygon beth i’w wneud nesa’ – un o broblemau mawr y clefyd yw ei fod yn anodd ei adnabod.

“Os oes modd atal canser y prostad o fewn fy oes i, a’i droi’n rhywbeth na fydd rhaid i fy meibion a fy wyrion ei ofni, mae hynny’n newyddion mawr,” meddai Robert Winston.