Michael Gove
Nid oes sail gyfreithiol i gytundeb David Cameron ynglŷn â newid perthynas y DU o fewn yr Undeb Ewropeaidd (UE) ac fe allai gael ei wyrdroi yn Llys Cyfiawnder Ewrop, yn ôl Michael Gove.

Mae’r Ysgrifennydd Cyfiawnder wedi herio sylwadau’r Prif Weinidog bod gan y cytundeb sail gyfreithiol ac nad yw’n bosib ei wyrdroi.

Ond mae Downing Street wedi wfftio honiadau Michael Gove gan fynnu bod gan y cytundeb sail gyfreithiol a bod yn rhaid i’r llys ei gymryd i ystyriaeth.

Dyma’r tro cyntaf i Michael Gove ymyrryd yn yr ymgyrch cyn y refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r UE ers iddo benderfynu cefnogi’r ymgyrch i adael yr undeb.

Ond mynnodd nad oedd David Cameron wedi camarwain pleidleiswyr.

“Mae’n hollol gywir bod hyn yn gytundeb rhwng y 28 o wledydd (sy’n aelodau o’r UE). Ond yr holl bwynt yw bod Llys Cyfiawnder Ewrop uwchlaw’r gwledydd hynny… a’r Llys fydd yn penderfynu ar sail y cytundebau.”

Mae Michael Gove yn dadlau bod Prydain wedi cael ei “dal yn ôl” gan yr UE a bod yr undeb yn “fodel hen-ffasiwn.”