Senedd yr Alban (llun y senedd)
Mae’r  llywodraethau yn Llundain a Chaeredin mewn trafferthion tros fanylion y trefniant trethi newydd i’r Alban.

Heddiw yw’r dyddiad terfyn y mae Senedd yr Alban wedi ei osod ar gyfer cytuno ar y manylion, ond does dim bargen wedi ei tharo hyd yn hyn.

Mae gwleidyddion yn rhybuddio y gallai methu cytuno’n fuan achosi problemau mawr wrth i Senedd yr Alban gau ar gyfer yr etholiadau.

Yn ôl papur newydd y Scotsman, mae un o weinidogion Llywodraeth Prydain, yr Arglwydd Dunlop, yn dweud bod cytundeb yn agos  ond mae gweinidogion Llywodraeth yr Alban yn gwadu hynny.

Y cefndir

Mae’r trefniant treth yn ganolog i’r setliad datganoli a ddaeth yn sgil y refferendwm yn yr Alban yn 2014.

Mae’r dadlau’n ymwneud â’r trefniant ariannol rhwng Llundain a Chaeredin wrth i’r Alban gymryd cyfrifoldeb am 50% o dreth incwm yn y wlad.

Yr egwyddor yw na ddylai’r un llywodraeth golli arian o ganlyniad i’r drefn newydd.