Fe fydd timau achub yn penderfynu ddydd Sul a fyddan nhw’n parhau i chwilio am ddau o bobol aeth ar goll wrth ddringo mynydd Ben Nevis y penwythnos diwethaf.

Dydy Rachel Slater, 24, a Tim Newton, 27, o Bradford, ddim wedi cael eu gweld ers y penwythnos diwethaf pan aethon nhw i ddringo mewn tywydd garw.

Dydy timau achub Lochaber ddim wedi bod yn gweithio dros y penwythnos, ond fe fyddan nhw’n adolygu’r sefyllfa yn ystod y dydd.

Yn y cyfamser, mae dau ddyn wedi cael eu hachub ar y mynydd wedi iddyn nhw fynd i drafferthion ddydd Sadwrn.