Ed Miliband - un o gyn-aelodau Clwb Llafur Prifysgol Rhydychen
Mae Aelod Seneddol Llafur wedi galw ar i’w blaid wahardd Clwb Llafur Prifysgol Rhydychen, yn dilyn honiadau o wrth-Semitiaeth.

Mae’r clwb, sy’n gallu brolio i Michael Foot, Ed a David Miliband fod yn aelodau yno yn y gorffennol, wedi cael ei siglo gan honiadau o hiliaeth ers i’r myfyriwr, Alex Chalmers, ymddiswyddo o fod yn gyd-Gadeirydd y clwb yn gynharach yr wythnos hon ar ôl honni fod gan “garfan fawr” o’r aelodau “ryw fath o broblem gydag Iddewon” a bod rhai ohonyn nhw’n cydymdeimlo gyda’r grwp milwriaethus Islamaidd, Hamas.

Mae John Mann, Aelod Seneddol Llafur tros Bassetlaw yn Swydd Nottingham, wedi galw ar i’r blaid dorri pob cysylltiad gyda’r clwb nes bydd ymchwiliad wedi’i gynnal.

Meddai ar wefan gymdeithasol Twitter heddiw: “Mae angen cynnal ymchwiliad llawn, ac mae angen gwahardd Clwb Llafur Prifysgol Rhydychen os ydyn nhw’n euog o’r honiadau o hiliaeth.”