Mae Llywydd Senedd Ewrop wedi dweud na all Aelodau Seneddol Ewropeaidd (ASE) gytuno’n syth ar gynnig David Cameron ynglŷn â’r diwygiadau i’r Undeb Ewropeaidd (UE).

Pe bai cytundeb yn cael ei selio ddydd Iau a dydd Gwener ym Mrwsel, fe fyddai’n rhaid i ASE gymeradwyo rhannau o’r pecyn diwygio sy’n cynnwys cyfyngiadau ar fudd-daliadau i fewnfudwyr.

Fe ddywedodd Martin Schulz, Llywydd Senedd Ewrop, na fyddai’n bosib iddyn nhw dderbyn popeth sy’n cael eu rhoi o’u blaenau.

Ond, fe ddywedodd y byddai’r senedd yn gweithio’n “adeiladol” i geisio dod o hyd i’r “atebion angenrheidiol ar gyfer y problemau sy’n cael eu disgrifio gan y DU.”

Fe fyddai’r senedd yn dechrau yn syth ar y broses ddeddfwriaethol wedi i’r DU bleidleisio i aros yn yr UE, meddai.

‘Nid yw’n bosib’

Pan ofynnwyd i Martin Schulz a fyddai cytundeb yn sicrhau “rhwymedigaeth gyfreithiol” ac y byddai’r Senedd Ewropeaidd yn gorchymyn y newidiadau angenrheidiol, fe ddywedodd: “Unwaith y bydd cytundeb wedi ei wneud fe fydd dadl adeiladol yn dechrau rhwng yr Aelodau Seneddol Ewropeaidd.

“Ond, i fod yn hollol glir: ni all yr un llywodraeth fynd i senedd a dweud, ‘dyma ein cynllun, allwch chi sicrhau’r canlyniad?’ Mewn democratiaeth, nid yw hynny’n bosib.”

Fe wrthododd hefyd honiadau bod ASE wedi cynnig feto ar unrhyw gytundebau rhwng arweinwyr Ewrop a gofynion David Cameron.

“Mae’n rhaid inni gael cyfaddawd rhwng y 28 gwlad sy’n aelodau, yna cyfaddawd rhwng rheiny â’r comisiwn a’r senedd.

“Nid feto yw hyn, ond gweithdrefn normal,” meddai.

Dilyn y DU

Un sydd wedi mynegi pryder am y diwygiadau sy’n cynnwys newidiadau i fudd-daliadau yw Gweinidog Ewrop y Weriniaeth Tsiec – Tomas Prouza. Fe ddywedodd na ddylai gwledydd eraill o’r UE gael yr hawl i ddilyn y DU ar y mater.

Fe ddywedodd ei fod yn poeni y bydd gwledydd eraill yn dilyn ôl traed Prydain “er eu lles eu hunain.”

‘Dim cynllun B’

Cynnig Prydain am ddiwygiadau yw’r eitem gyntaf ar agenda’r Cyngor Ewropeaidd lle bydd 28 o arweinwyr yr UE yn cyfarfod ddiwedd yr wythnos.

Gallai canlyniad y cyfarfod danio’r ddadl ymhlith Gweinidogion Eurosgeptic a fydd yn barod i ymgyrchu am bleidlais i adael yr UE yn y refferendwm a ddisgwylir diwedd mis Mehefin.

“Dw i’n annog pobol Prydain i bleidleisio ar ganlyniadau dydd Iau, i bleidleisio Ie,” meddai Llywydd Senedd Ewrop, Martin Schulz.

“Yna fe fyddwn ni’n dechrau gweithdrefn ddeddfwriaethol a fydd yn clirio ac yn help i ddatrys y problemau a gyflwynwyd yn y fframwaith.”

Wrth siarad â Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Jean-Claude Juncker, fe ddywedodd David Cameron nad oes gan y DU ‘gynllun B’, ac fe ddywedodd y byddai’r DU yn parhau yn “aelod adeiladol a gweithredol.”