Sian Blake (Llun trwy law Heddlu Llundain)
Mae heddlu wedi cadarnhau bod Arthur Simpson-Kent wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio cyn-actores Eastenders Sian Blake a’i dau o blant.

Roedd swyddogion o Heddlu Llundain ym Maes Awyr Heathrow i gyfarfod y gŵr 48 oed wrth iddo lanio ar ôl hedfan yn ôl o Ghana.

Fe ddiflannodd Sian Blake a’i meibion – Zachary, 8, ac Amon, 4 – ar 13 Rhagfyr ac fe gafwyd hyd i’w cyrff yng ngardd cartref y teulu yn Erith, Kent, 5 Ionawr.

Ymchwiliad

Fe ddychwelodd Arthur Simpson-Kent, oedd yn gariad i Sian Blake, i Brydain ar ôl cytuno i gael ei ystraddodi o Ghana.

Roedd wedi gadael gwledydd Prydain ychydig ddyddiau ar ôl i’r heddlu gael gwybod bod y tri pherson ar goll.

Mae ymchwiliad pellach yn cael ei gynnal i’r ffordd y gwnaeth heddlu Scotland Yard ddelio â’r achos, a pham y cymerodd hi fwy na thair wythnos i ddod o hyd i’r cyrff.

  • Roedd Sian Blake wedi actio rhan Frankie Pierre mewn 56 pennod o Eastenders rhwng 1996 ac 1997. Roedd hi’n dioddef o glefyd motor niwron cyn iddi farw.