Papur newydd yn adrodd stori Aseel Muthana
Mae dyn ifanc o Gaerdydd yn wynebu carchar ar ôl i reithgor ei gael yn euog o geisio helpu dyn arall o’r brifddinas i fynd i ymladd gyda jihadwyr yn Syria.

Fe fydd Kristen Brekke, 20 oed, o Grangetown yn cael ei ddedfrydu y prynhawn yma, gyda dau ddyn arall o Loegr.

Ef oedd yr unig un i ymateb ar ôl clywed dedfryd y rheithgor eu bod ill tri’n euog o’r cyhuddiad o baratoi ar gyfer gweithredoedd brawychol trwy helpu Aseel Muthana o Gaerdydd i fynd i Syria i ymladd gyda byddinoedd IS.

Fe siglodd Kresten Brekke ei ben tra bod y ddau ddiffynnydd arall, Adeel Ulhaq o Swydd Nottingham, a Forhad Rahman o Cirencester, wedi aros yn ddifynegiant.

Kristen Brekke wedi helpu

Fe glywodd llys yr Old Bailey mai wedi troi at Fwslemiaeth yr oedd Kristen Brekke ac roedd wedi dod i adnabod Aseel Muthana pan oedd y ddau ohonyn nhw’n gweithio mewn parlwr hufen-iâ yng Nghaerdydd.

Fe welodd y llys fideo o’r ddau gyda gwn ffug ar fryn uwchben y brifddinas ac, yn ôl yr erlyniad, roedd wedi helpu Aseel Muthana i gael dillad ac wedi gadael iddo ddefnyddio’i gyfrifiadur.

Dadl Kristen Brekke oedd ei fod wedi prynu pethau oherwydd ei fod yn paratoi am daith wersyllla i Fannau Brycheiniog.

Y cefndir

Roedd Aseel Muthana, a oedd yn 17 oed ar y pryd, wedi gadael am Syria bron union ddwy flynedd yn ôl, ym mis Chwefror 2014, a dyw e ddim wedi dod yn ôl.

Roedd yn dilyn ei frawd, Nasser Muthana, a oedd wedi mynd i Syria gyda phedwar dyn ifanc arall o Gaerdydd ychydig fisoedd ynghynt.

Fe glywodd y llys fod Adeel Ulhaq a Forhad Rahman yn rhan o griw o ffrindiau a oedd yn cefnogi mudiad jihadaidd IS ac mai Kristen Brekke oedd yr unig un o’r tri i beidio â mynegi awydd i fynd i Syria hefyd.