Mae chwe gwaith mwy o achosion o dreisio wedi bod yng ngwledydd Prydain yn ystod y pum mlynedd diwethaf, a hynny oherwydd bod mwy o wefannau caru’n bodoli, yn ôl arbenigwyr.
Yn ôl ffigurau’r Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol, roedd 184 o achosion yn 2014 lle’r oedd unigolion wedi cael eu treisio gan rywun yr oedden nhw wedi’u cyfarfod drwy wefannau caru.
Dim ond 33 o achosion a gafodd eu cofnodi yn 2009.
Yn ôl yr Asiantaeth, mae’n llai tebygol bod gan y math newydd hwn o dreisiwr gofnod troseddol.
Mae dwywaith cymaint o bobol yn dweud eu bod nhw wedi cael eu treisio gan rywun oddi ar wefan caru na’r rheiny sy’n dweud eu bod nhw wedi cael eu treisio gan ‘yrrwr tacsi’.
Mae ymgyrch newydd yn cael ei lansio er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r sefyllfa.
Dywed Press Association fod ymchwil ganddyn nhw’n dangos bod saith gwaith mwy o droseddau’n gysylltiedig â gwefannau Tinder a Grindr yn 2015 nag yn 2013.
Ond fe allai’r nifer fod yn uwch o ystyried unigolion nad oedden nhw wedi mynd at yr heddlu.
Roedd 85% o’r achosion a gafodd eu cofnodi yn erbyn menywod, a 42% ohonyn nhw’n fenywod rhwng 20 a 29, a 24% rhwng 40 a 49 oed.
Mae’r Asiantaeth wedi rhybuddio’r 9 miliwn o ddefnyddwyr gwefannau caru i fod yn ofalus wrth drefnu i gyfarfod ag unigolion.