David Cameron gyda Donald Tusk
Fe fydd David Cameron heddiw yn ceisio darbwyllo Aelodau Seneddol i dderbyn ei gynlluniau i ddiwygio’r Undeb Ewropeaidd (UE) pan fydd yn amlinellu manylion y cytundeb drafft gyda Brwsel yn y Senedd.

Datganiad y Prif Weinidog yn Nhŷ’r Cyffredin fydd y cyfle cyntaf iddo geisio mesur beth yw’r ymateb i’r cynllun drafft ymhlith ASau Ceidwadol.

Cafodd y cynllun drafft ei lunio gyda llywydd y Cyngor Ewropeaidd Donald Tusk yn dilyn trafodaethau dwys dros y dyddiau diwethaf.

Dywedodd David Cameron bod llawer o waith i’w wneud o hyd i ddod i gytundeb terfynol cyn cyfarfod o arweinwyr yr UE ym Mrwsel rhwng Chwefror 18 a 19.

 ‘Sail ar gyfer cytundeb’

Mae’r Prif Weinidog yn ymwybodol na fydd y cytundeb drafft yn ddigon i fodloni’r ASau hynny sydd am adael yr UE, sydd wedi bod yn feirniadol o’r cynlluniau, ond mae’n gobeithio ei fod wedi gwneud digon i sicrhau cefnogaeth trwch aelodau’r blaid.

Cafodd David Cameron  hwb ddoe pan awgrymodd yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May y gallai hi fod yn barod i gefnogi’r cynlluniau, gan ddweud eu bod yn “sail ar gyfer cytundeb.”

Roedd hi’n cael ei gweld fel un o’r ffigurau mwyaf blaenllaw yn y Cabinet a fyddai’n gwrthod y cynlluniau ac mae awgrymiadau y gallai hi arwain yr ymgyrch i adael yr UE cyn y refferendwm ar aelodaeth y DU o’r undeb. Mae disgwyl i’r refferendwm gael ei gynnal ym mis Mehefin.

Mae’r cytundeb yn cynnwys “brêc brys” ar fudd-daliadau i fewnfudwyr mewn gwaith, a mesurau i ddiogelu gwledydd sydd ddim ym mharth yr ewro.