Jamie Bevan, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith
Mae mudiad iaith am weld mwy o sylw i’r Gymraeg wrth i Lywodraeth nesaf Cymru gael ei ffurfio.
Am hynny, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn lansio eu hymgyrch yng Nghaerdydd heddiw, sef ‘Miliwn o Siaradwyr Cymraeg’.
Dros y misoedd nesaf, fe fyddan nhw’n teithio ledled Cymru mewn bws i roi “mwy o ffocws ar y Gymraeg yn etholiadau’r Cynulliad,” meddai Jamie Bevan, Cadeirydd y Gymdeithas.
Nodau sylfaenol yr ymgyrch yw sicrhau miliwn o siaradwyr, atal allfudiad a defnyddio’r Gymraeg ym mhob rhan o fywyd.
Fe wnaeth y mudiad iaith gyflwyno dogfen bolisi i’r pleidiau y llynedd yn cynnig ystod o argymhellion ynglŷn â’r Gymraeg. Un ohonyn nhw oedd cynnig i symud at addysg cyfrwng Cymraeg i bob person ifanc yng Nghymru.
‘Hoelio sylw ar y Gymraeg’
“Dyw’r Gymraeg ddim wedi cael digon o sylw yn ystod etholiadau blaenorol y Cynulliad,” meddai Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Fe ddywedodd ei fod am weld cynllun “manwl a hir dymor” ar gyfer y Gymraeg fel rhan o Lywodraeth nesaf Cymru.
“Rydyn ni eisiau i’r holl bleidiau gyhoeddi cynlluniau manylach nag erioed o’r blaen. Dyna sydd ei angen fel bod modd i bobol drin a thrafod y ffordd gorau ymlaen.”
Mae’n gobeithio y bydd eu taith bws yn fodd i godi ymwybyddiaeth at “bwysigrwydd hoelio sylw ar y Gymraeg.”
‘Tyngedfennol i’r iaith’
Fe esboniodd fod eu hargymhellion yn eu dogfen bolisi – ‘Miliwn o Siaradwyr Cymraeg: Gweledigaeth o 2016 Ymlaen’ wedi’u seilio ar drafodaethau o fewn y Gymdeithas a gydag arbenigwyr polisi iaith.
“Mae’r etholiad nesaf yn un tyngedfennol i’r iaith,” meddai gan gyfeirio at ganlyniadau Cyfrifiad 2011.
“Mae angen uchelgais arnon ni fel cenedl er mwyn sicrhau ffyniant y Gymraeg dros y degawdau i ddod. Mae angen i ni fel pobl – a’n gwleidyddion – ehangu ein gorwelion.”
“Mae angen gweithredu’n fwriadus ar bolisïau a chynlluniau clir. Os yw ein gwleidyddion o ddifrif am gyrraedd amcanion uchelgeisiol, mae angen penderfyniadau dewr ar ddeddfwriaeth, adnoddau a chefnogaeth y cyhoedd wrth gynllunio’r ffordd ymlaen.”
Fe fydd rali ‘Miliwn o Siaradwyr Cymraeg’ yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ar 13 Chwefror 2016.