Gareth Vincent Hall
Mae dyn o ardal Caernarfon yn wynebu hyd at 50 mlynedd dan glo yn yr Unol Daleithiau ar ôl cyfaddef i gyfres o droseddau rhyw gan gynnwys treisio merch 10 oed.
Cafodd Gareth Vincent Hall, 22, o Dalysarn, ei arestio ym Maes Awyr O’Hare yn Chicago ym mis Mai 2015.
Yn y llys yn Eugene, Oregon mae Hall wedi pledio’n euog i bedwar cyhuddiad o dreisio, dau gyhuddiad o sodomiaeth ac un achos o feithrin perthynas amhriodol â phlentyn ar-lein.
Mae disgwyl iddo gael ei ddedfrydu ar 1 Mawrth.
Pledio’n Gymraeg
Dywedodd sianel deledu Oregon, KMTR, fod y cyn achubwr bywydau yng Nghanolfan Hamdden Caernarfon yn wynebu lleiafswm o 25 mlynedd yn y carchar ac y gallai wynebu 50 mlynedd dan glo.
Gan ddefnyddio cyfieithydd, fe blediodd Gareth Hall yn euog yn y Gymraeg, i bob un o’r saith cyhuddiad yn ei erbyn.
Fe fydd yn cael ei gadw yn y ddalfa yn Oregon, lle mae wedi bod ers cael ei arestio, nes iddo gael ei ddedfrydu.
Roedd wedi teithio i Oregon ym mis Ebrill 2015 i gwrdd â merch yr oedd wedi bod yn cysylltu â hi drwy safle sgwrsio ar-lein.
Yn ôl yr heddlu, roedd wedi aros mewn sawl motel lleol ac wedi cyfarfod â’r ferch sawl tro dros gyfnod o bum diwrnod.
Ar ôl i Gareth Hall ddod yn ôl i Gymru, roedd rhieni’r ferch wedi dweud wrth yr heddlu yn Eugene am y troseddau.
Gwahardd o’i swydd yng Nghymru
Cafodd ei wahardd o’i swydd yn y ganolfan hamdden ym mis Hydref 2014 ar ôl ymchwiliad troseddol arall gan Heddlu Gogledd Cymru.
Mae Cyngor Gwynedd wedi dweud yn y gorffennol nad oedd wedi derbyn unrhyw gwynion gan rieni plant a allai fod wedi cael gwersi nofio gan Gareth Hall yn y pwll yng Nghaernarfon.