Carwyn Jones
Mewn araith yng nghynhadledd flynyddol Conffederasiwn y Gwasanaeth Iechyd (GIG), bydd Prif Weinidog Cymru’n canmol y gwasanaeth yng Nghymru a’i chymharu â sefyllfa “cymhleth, niwlog a disynnwyr” Lloegr.

Mae disgywl i  Carwyn Jones wfftio honiadau beirniadol am y GIG yng Nghymru, gan “ddathlu llwyddiant y GIG dros y pum mlynedd ddiwethaf.”

Fe fydd yn dweud bod Llywodraeth Cymru a chlinigwyr wedi cydweithio’n dda gyda’u hymrwymiad i sicrhau triniaeth o safon uchel.

“Er yr holl heriau sy’n ei wynebu, mae’r GIG yng Nghymru yn sefydliad cadarn a chryf.”

 ‘O dan straen’

Er hyn, mae’n cydnabod fod y GIG yng Nghymru wedi bod o dan straen yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, a hynny “oherwydd y caledi ledled Prydain o du San Steffan.”

Ond, fe fydd yn dweud ei fod wedi goroesi, “ac mae nifer y bobl sydd ag achos i fod yn ddiolchgar am ei ofal a’i driniaethau wedi parhau i dyfu.”

Bydd yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi “ymrwymo o hyd i’r syniad syml y bydd yno i bob un o’r tair miliwn o bobl Cymru pan fyddant ei angen fwyaf.”

‘Cymhleth, disynnwyr a niwlog’

 

Yn ystod ei araith, bydd yn cyfeirio at sefyllfa’r GIG yn Lloegr gan amlygu fod y diwygiadau iechyd yn “gymhleth, disynnwyr a niwlog.”

Bydd yn son hefyd am streiciau diweddar meddygon iau Lloegr mewn anghydfod am eu cytundebau gwaith.

“Yn Lloegr, mae Gweinidogion wedi dechrau ar ddiwygiadau sydd mor gymhleth, ac sydd mor anodd deall eu strwythur o ran atebolrwydd, fyddwn i ddim yn synnu a yw’r cleifion yn gwybod pwy sy’n gofalu am beth – os oes rhywun o gwbl.”

Bydd hefyd yn amlygu manteision staff a chleifion yng Nghymru yn hynny o beth, gan ddweud eu bod yn “cydweithio yn hytrach na gwrthdaro,” gan bwysleisio nad yw “aildrefnu o’r gwaelod i lawr ar yr agenda tra fy mod i’n cael dweud fy nweud ar y mater.”