Y diweddar Stephen Lawrence
Mae ditectifs sy’n ymchwilio i lofruddiaeth Stephen Lawrence dros 20 mlynedd yn ol, wedi gofyn i “nifer o bobol” roi samplau DNA.

Mae Scotland Yard wedi cadarnhau heddiw y gallai “camau breision ymlaen yn y dulliau o broffilio DNA” ers i’r bachgen 18 oed gael ei drywanu i farwolaeth, eu helpu wrth iddyn nhw astudio eitem a ganfyddwyd ar Ebrill 22, 1993.

“Mae swyddogion sy’n gweithio ar yr achos wedi gofyn i nifer o bobol roi sampl DNA,” meddai datganiad gan Heddlu’r Met.

“Dydi’r bobol hynny ddim dan amheuaeth o lofruddio, a dydyn ni ddim yn fodlon trafod pwy sydd wedi derbyn cais i roi sampl.”

Fe gafodd Stephen Lawrence, oedd a’i fryd ar fod yn bensaer, ei drywanu i farwolaeth gan giang o ddynion croenwyn wrth iddo aros gyda ffrind mewn safle bws yn Eltham, de-ddwyrain Llundain.

Fe aeth 18 mlynedd heibio cyn i ddau o’i lofruddwyr, Gary Dobson d David Norris, ddod o flaen eu gwell. Fe gawson nhw eu carcharu am oes yn 2012.