Mae David Cameron wedi teithio i Frwsel unwaith eto am ragor o drafodaethau ynglŷn â newidiadau posib i berthynas gwledydd Prydain gyda’r Undeb Ewropeaidd.

Bwriad y Prif Weinidog yw ceisio sicrhau diwygiadau cyn ymgyrchu dros aros yn rhan o’r Undeb yn y refferendwm sydd i ddod eleni.

Fe ganslodd Cameron ymweliadau â Sweden a Denmarc er mwyn cynnal y trafodaethau diweddaraf, wrth iddo geisio cyflwyno rheolau i atal mewnfudwyr o Ewrop rhag hawlio budd-daliadau yng ngwledydd Prydain.

Ond mae John Redwood, un o’r ASau Ceidwadol sydd o blaid gadael Ewrop, yn mynnu nad yw’r Prif Weinidog yn gofyn am ddigon o ddiwygio.

Refferendwm ym Mehefin?

Dywedodd David Cameron y byddai’n parhau i bwyso am wahardd mewnfudwyr rhag hawlio budd-daliadau gwaith am bedair blynedd, yn ogystal â newidiadau eraill er mwyn ceisio lleihau pŵer Brwsel ym Mhrydain.

Mae disgwyl iddo gynnal trafodaethau â llywydd y Comisiwn Ewropeaidd a llywydd Senedd Ewrop Martin Schulz heddiw, ac fe fydd yn cyfarfod eraill dros yr wythnosau nesaf hefyd er mwyn ceisio taro bargen.

Bydd arweinwyr Ewropeaidd yn cynnal cyfarfod llawn ar 18 Chwefror ac mae Cameron yn gobeithio gallu cyflwyno’r diwygiadau arfaethedig i etholwyr Prydain wedi hynny.

Y disgwyl yw y bydd y refferendwm yn cael ei chynnal rywbryd ym mis Mehefin, ond fe gyfaddefodd y Gweinidog Tramor Philip Hammond y byddai hynny’n annhebygol os nad oedd cytundeb ar y diwygio fis nesaf.