Y papur pleidleisio arfaethedig
Mae pleidleiswyr wedi cael gweld y papur pleidleisio arfaethedig ar gyfer refferendwm yr Undeb Ewropeaidd am y tro cyntaf wrth i’r Llywodraeth gyhoeddi rheolau’r bleidlais, gan gadw’r drws ar agor dros ei chynnal ym mis Mehefin.
Cafodd y ffurflen arfaethedig, sef teitl a chwestiwn y bleidlais, ei dangos gerbron Senedd San Steffan.
Mae’n rhaid dod i gytundeb ar y ffurflen o leiaf 10 wythnos cyn dyddiad y refferendwm ond mae’r Comisiwn Etholiadol yn awgrymu y dylai fod yn barod o leiaf chwe mis cyn y bleidlais.
Byddai cynnal pleidlais ym mis Mehefin felly yn mynd yn groes i “arferion gorau” y corff.
Mae’r amseru’n golygu nad yw David Cameron wedi diystyru cynnal pleidlais gynnar ym mis Mehefin
ond mae’r Prif Weinidog wedi awgrymu na fydd yn gall sicrhau cytundeb ar ddiwygio’r undeb mewn pryd.
Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid cynnal y refferendwm erbyn diwedd 2017, gyda hydref 2016 yn cael ei weld fel y dyddiad gorau os na fydd arweinwyr Ewrop yn dod i gytundeb ym mis Chwefror.
Y cwestiwn
Mae’r papur pleidleisio yn dangos y pennawd “Refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd” ac yn atgoffa pleidleiswyr i roi croes mewn un blwch yn unig.
Mae’r cwestiwn yn darllen, “A ddylai’r Deyrnas Unedig aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd neu a ddylai adael yr Undeb Ewropeaidd?”
Dau opsiwn sydd sef ‘Aros yn yr Undeb Ewropeaidd’ neu ‘Gadael yr Undeb Ewropeaidd’.
Cafodd y cwestiwn ei newid o fformiwla ie/na syml yn dilyn argymhelliad gan y Comisiwn Etholiadol.
Gall ymgyrchwyr ar y ddwy ochr ddechrau cofrestru â’r Comisiwn, ac mae’n rhaid cofnodi pob rhodd ariannol neu fenthyciad o dros £7,500, o 1 Chwefror ymlaen.