Carwyn Jones
Mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi ymddiheuro wrth Aelodau Cynulliad heddiw am y ffordd y gwerthwyd tir cyhoeddus bedair blynedd yn ol am ‘bris rhy isel’.

Roedd y pwnc yn destun ffrae yn sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw yn y Senedd ac ymatebodd Carwyn Jones drwy ddweud bod y ffordd y cafodd y tir ei werthu “heb gyrraedd y safonau disgwyliedig.”

“Am hynny, rydym yn ymddiheuro,” meddai wrth Aelodau Cynulliad.

Addawodd y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb yn llawn ‘maes o law’ i’r adroddiad sy’n beirniadu Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio (RIFW), corff hyd braich a oedd yn gyfrifol am werthu’r tir.

Colli degau o filiynau i’r pwrs cyhoeddus

Yn ôl  yr adroddiad gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, cafodd 15 uned o dir cyhoeddus eu gwerthu am brisiau isel, pan allent fod wedi sicrhau degau o filiynau o bunnoedd i’r pwrs cyhoeddus yng Nghymru.

Gwerthwyd y 15 safle am £21 miliwn pedair blynedd yn ôl. Ond, yn ôl yr adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw, fe allent fod wedi sicrhau llawer mwy ar gyfer prosiectau adfywio ar gyfer ardaloedd difreinitiedig yng Nghymru.

Un enghraifft oedd gwerthu tir yn Llys-faen, a oedd yn werth £39 miliwn, am £1.8 miliwn.

‘Methiant anhygoel’

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies ei fod yn croesawu ymddiheuriad y Prif Weinidog ond nad oedd yn “hyderus bod gwersi am gael eu dysgu, na bod unrhyw weithredu arwyddocaol yn mynd i ddigwydd.”

Ychwanegodd ei fod yn bryderus nad oes unrhyw un am gael eu dwyn i gyfrif am “y methiant anhygoel yma i ddiogelu arian y trethdalwyr.”

‘Cyfle wedi’i wastraffu’

Wrth ymateb i’r adroddiad fe ddywedodd Aled Roberts AC y Democratiaid Rhyddfrydol fod “yr adroddiad hwn yn ergyd enfawr i hanes y Llywodraeth Lafur wrth drin arian cyhoeddus.” 

Fe ddywedodd y gallai gwerthu’r tir o eiddo cyhoeddus fod wedi codi “degau o filiynau o bunnoedd i’r pwrs cyhoeddus, ond yn hytrach cafodd y cyfle ei wastraffu. Dyw hyn yn ddim llai na gwarth.”

“Fe fethodd Gweinidogion Llafur i ddarparu trosolwg go iawn, a methodd y rheiny a gafodd eu penodi â chwblhau eu swyddi’n iawn.”