Wythnos ar ôl lansio’r wefan newydd, mae’r system newydd o gofnodi symudiadau defaid ar-lein yng Nghymru wedi cael ymateb ‘addawol iawn’.

Lansiwyd EIDCymru yr wythnos ddiwethaf ac mae 300 o ffermwyr wedi cofrestru gyda’r wefan yn barod.

Yn ogystal, mae nifer o ladd-dai, marchnadoedd a chanolfannau casglu ledled Cymru yn defnyddio’r wefan i gyflwyno eu data yn electronig.

Nid yw hi’n orfodol eto i ffermwyr gofnodi symudiadau na thrwyddedau defaid na geifr yn electronig, ond mae EIDCymru yn wasanaeth sy’n annog ffermwyr i gyflwyno data ar-lein.

Gall ffermwyr sydd heb gysylltiad neu sgiliau i ddefnyddio’r rhyngrwyd barhau i gyflwyno ffurflenni a thrwyddedau papur.

‘Addawol iawn’

“Mae’r system ar waith ers ychydig dros wythnos ac mae nifer o aelodau’r diwydiant defaid yng Nghymru sy’n ei defnyddio yn galonogol,” meddai John Richards, Arweinydd Gweithredu Technegol EIDCymru.

“Er ei fod yn gyfnod cymharol dawel o’r flwyddyn o ran symud defaid, mae nifer y ffermwyr sy’n cofrestru eu diddordeb ac yn cysylltu â gwasanaeth EIDCymru i gael rhagor o wybodaeth wedi bod yn addawol iawn. Mae nifer o ffermwyr eisoes wedi cofnodi eu symudiadau defaid yn llwyddiannus ar-lein,” ychwanegodd.