Mae penaethiaid y Loteri Genedlaethol wedi rhybuddio y byddan nhw’n cymryd camau yn erbyn unrhyw un sy’n ceisio’u twyllo i ennill y jacpot gwerth £33 miliwn.
Yn ôl Camelot, grŵp gweithredu’r Loteri Genedlaethol, mae cannoedd o bobol wedi cysylltu i hawlio’r tocyn buddugol, gan ddweud fod y tocyn wedi’i ddifrodi, ar goll, neu wedi’i ddwyn.
Un o’r rheiny yw Susanne Hinte, 48 oed, o Gaerwrangon sy’n honni iddi roi’r tocyn drwy’r golch. Fe gysylltodd ag ymgynghorwyr Camelot ddydd Gwener yn honni na fedrai ddarllen dyddiad na chod ei thocyn buddugol bellach.
Fe ddywedodd Camelot eu bod nhw’n ystyried pob achos yn unigol ar hyn o bryd, a hynny wedi iddyn nhw gadarnhau bod y tocyn buddugol wedi’i brynu yng Nghaerwrangon.
Fe ddywedodd y bydden nhw hefyd yn cymryd camau yn erbyn unrhyw un sy’n “ceisio’n fwriadol i dwyllo’r Loteri Genedlaethol.”
‘Wynebu carchar’
“Gyda gwobrau o’r swm yma, mae’n hollol naturiol i dderbyn nifer o geisiadau gan bobol sydd wir yn meddwl eu bod wedi colli neu daflu’r tocyn buddugol i ffwrdd,” meddai llefarydd ar ran Camelot.
“Fodd bynnag, os ydyn ni’n credu fod rhywun wedi ceisio’n fwriadol i dwyllo’r Loteri Genedlaethol, yna fel unrhyw gwmni arall, fe fyddwn ni’n cadw’r hawl i gymryd unrhyw gamau dy’n ni’n eu gweld yn bwrpasol.”
Esboniodd cyn-dditectif Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr, John Plimmer, y gallai unrhyw un sy’n cael eu dal yn twyllo wynebu carchar.
“Does dim rhaid iddyn nhw lwyddo i hawlio’r arian i’w cael yn euog. Byddai unrhyw un sy’n eu cael yn euog yn wynebu dedfryd o garchar llym.”
‘Hawlio’r arian’
Nid yw Camelot wedi rhyddhau manylion am ba siop y prynwyd y tocyn hyd yn hyn.
“Fe fyddem ond yn rhyddhau manylion am y siop pe byddem yn derbyn hawliad dilys ac y byddai deiliad y tocyn wedyn yn derbyn cyhoeddusrwydd,” meddai’r llefarydd.
Yn ôl amodau’r drwydded, mae gan Camelot y rhyddid i dalu’r gwobrau yn ymwneud â thocynnau sydd wedi’u colli, eu dwyn, neu eu malu os yw’r cystadleuwr wedi cyflwyno cais o fewn 30 diwrnod i gyhoeddi’r loteri.
Ond, esbonia Camelot hefyd na fydd yr arian yn cael ei dalu am o leiaf 180 o ddiwrnodau, er mwyn rhoi cyfle i eraill gysylltu.
Os na fydd unrhyw un wedi hawlio’r £33 miliwn o’r tocyn a brynwyd yng Nghaerwrangon erbyn Gorffennaf 7, fe fydd yr arian yn cael ei roi i elusennau.
‘Gwobr fwya’r loteri’
Fe dynnwyd y loteri ar Ionawr 9 gyda’r jacpot o £66 miliwn yn golygu mai dyma wobr fwyaf y loteri yn y DU.
Cwpl priod o Hawick yn yr Alban a enillodd hanner arall y wobr, sef David a Carol Martin, 54 oed ill dau.
“Rydym yn dal i annog cystadleuwyr i wirio eu tocynnau ac i gysylltu â ni os ydyn nhw’n credu bod ganddyn nhw’r tocyn buddugol,” meddai llefarydd Camelot gan atgoffa pobl mai’r rhifau ar y tocyn buddugol yw 26, 27, 46, 47, 52 a 58.