Mae siocled wedi’i wahardd mewn ysgol gynradd yn ne Cymru, am fod gan ddisgybl alergedd iddo.

Fe gymrodd Ysgol Gynradd Alltwen ym Mhontardawe y penderfyniad hwn ar ôl deall fod un disgybl yn mynd yn “sâl iawn” o ganlyniad i siocled.

Mae athrawon wedi’u gwahardd rhag bwyta siocled yn yr ystafell staff hefyd.

Mewn llythyr at rieni’r ysgol, esboniodd y Prifathro Owain Hyett, “yn anffodus, mae un o’n disgyblion wedi cael diagnosis i fod ag alergedd i siocled.”

“Mae’r disgybl hefyd yn sensitif iawn i siocled os yw yn yr aer neu’n cael ei fwyta gan ddisgybl arall.

“Er mwyn sicrhau diogelwch y plentyn hwn yn ein hysgol, fe fyddwn yn mabwysiadu polisi dim siocled i holl staff a disgyblion yr ysgol.”

Fe ychwanegodd hefyd fod yr adran arlwyo’n cydweithio â’r ysgol i addasu’r fwydlen er mwyn adleoli unrhyw fwyd sy’n cynnwys siocled. Mae’r Prifathro hefyd wedi galw ar rieni i sicrhau nad oes unrhyw olion o siocled ym magiau neu becynnau bwyd y disgyblion.

 ‘Anghyffredin iawn’

Mae’r ymateb ymysg rhieni’r ysgol wedi’i hollti – rhai’n cefnogi’r penderfyniad ac eraill yn dweud y byddai gwahardd siocled yn gyfan gwbl yn “anghymedrol” ac yn “anymarferol.”

Yn ôl un rhiant, “mae’n rhaid bod ffyrdd eraill i gadw’r plentyn yma’n ddiogel yn hytrach na gwahardd siocled ar draws yr ysgol gyfan?”

“Sut maen nhw’n mynd i gadw trefn arno beth bynnag? Ydyn nhw’n mynd i fynd trwy becyn bwyd pob plentyn?”

Yn ôl gwefan Newhealthguide.org, mae alergedd i siocled yn anghyffredin iawn.

Mae’r wefan yn nodi, “Pan mae rhywun yn cael alergedd i siocled, mae fel arfer yn alergedd i’r  ychwanegion sydd wedi’i gymysgu yn y siocled wrth iddo gael ei brosesu. Pan gaiff siocled ei gynhyrchu, gall gynnwys hyd at 300 o gynhwysion os nad mwy.”

Mae alergedd i siocled yn gallu achosi anawsterau anadlu, poen yn y stumog a chyfog.