Mark Carney
Mae llywodraethwr Banc Lloegr wedi rhybuddio nad yw gwneuthurwyr polisi ar frys i godi cyfraddau llog yn sgil cyflwr “ansefydlog” economi’r byd ac arafwch twf economaidd y DU.

Yn ei araith yn Llundain heddiw, fe ddywedodd Mark Carney “nad dyma’r amser” i godi cyfraddau llog o’u lefel isaf o 0.5% wrth i’r marchnadoedd arian a phrisiau olew ostwng ac wrth i arafwch economaidd China “godi ofn” ar fuddsoddwyr.

Daeth ei sylwadau ar ôl i Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF) ostwng ei rhagolygon ar gyfer twf tra bod data yn dangos bod economi China yn datblygu ar ei chyfradd arafaf mewn 25 mlynedd.

Dywedodd Mark Carney y bydd cynnydd mewn cyfraddau llog yn “dibynnu ar ragolygon economaidd, nid y calendr.”

Ychwanegodd fod angen i wneuthurwyr polisi weld mwy o dwf economaidd, cyflogau uwch a mwy o chwyddiant craidd cyn penderfynu cynyddu cyfraddau llog.

Chwyddiant

Yn y cyfamser mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos fod cyfraddau chwyddiant wedi cyrraedd eu lefel uchaf ers blwyddyn yn ystod y mis diwethaf.

Roedd Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) ym mis Rhagfyr wedi codi i 0.2%, o 0.1% ym mis Tachwedd. Dyma’r ffigwr uchaf ers mis Ionawr 2015. Mae’n debygol y bydd y gyfradd yn aros yn is na tharged y banciau o 2% tan o leiaf y flwyddyn nesaf.

Costau trafnidiaeth uwch dros y Nadolig oedd y prif reswm am y cynnydd, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), er bod prisiau bwyd a dillad wedi gostwng.