Wythnosau cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ffurflenni treth, mae swyddfa Cyllid a Thollau EM wedi cyhoeddi’r deg esgus gwaethaf dros eu cyflwyno’n hwyr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Cafodd pob un o’r esgusodion hyn eu defnyddio mewn apeliadau aflwyddiannus yn erbyn cosbau gan y swyddfa Cyllid a Thollau am gyflwyno ffurflenni treth yn hwyr.
- Cafodd fy mhapurau treth eu gadael yn y sied ac mae llygoden fawr wedi’u bwyta
- Dydw i ddim yn dda iawn am wneud gwaith papur – dw i wastad wedi dibynnu ar fy chwaer i lenwi fy ffurflenni treth ond rydym wedi ffraeo
- Mae fy nghyfrifydd wedi bod yn sâl
- Mae fy nghi wedi bwyta fy ffurflen dreth
- Byddaf dramor ar y dyddiad cau heb allu mynd ar-lein, felly ni fyddaf yn medru cyflwyno
- Mae fy ngliniadur wedi torri, yr un fath â’m mheiriant golchi
- Roedd fy nith wedi symud i mewn gyda mi – roedd y tŷ mor flêr ar ei hôl fel nad oedd modd i mi ddod o hyd i’m manylion mewngofnodi er mwyn llenwi fy ffurflen dreth ar-lein
- Gyrrodd fy ngŵr dros fy ngliniadur
- Cefais ffrae â’m gwraig ac es i i’r Eidal am bum mlynedd
- Roedd gennyf annwyd a gymrodd amser i wella.
Cosbau
Y dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno ffurflenni eleni yw 31 Ionawr ac mae’r swyddfa yn rhybuddio mai dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y byddan nhw’n derbyn rhai yn hwyr.
Y gosb gychwynnol am ffurflenni treth hwyr yw £100, hyd yn oed os nad oes treth i’w thalu ac ar ôl tri mis, mae’r swm hwnnw’n codi £10 y dydd, hyd at uchafswm o £900.
Ac ar ôl chwech a 12 mis, mae’r gosb yn cynyddu 5% o’r dreth sy’n ddyledus, neu £300, yn dibynnu pa un sydd fwyaf.
“Mae’n annhebygol iawn y caiff aelodau blêr o’r teulu, ac anifeiliaid anwes llwglyd, eu derbyn fel esgusodion dilys dros lenwi eich Ffurflen Dreth yn hwyr,” meddai Ruth Owen, Cyfarwyddwr Cyffredinol Treth Bersonol y swyddfa Cyllid a Thollau.
“Rydym yn deall y gallai fod yn anodd rhagweld mewn bywyd , ac mae cymorth wrth law i’r cwsmeriaid hynny sydd ag esgus dilys dros fethu’r dyddiad cau, fel y llifogydd.
“Fy nghyngor i fyddai cysylltu â ni drwy ein llinellau cymorth, neu ar-lein, cyn gynted ag y bo modd. Rydym yma i helpu pobl sydd wirioneddol mewn trallod, ond nid i weithredu fel benthyciwr i bobl sydd heb gymryd cyfrifoldeb dros dalu eu treth.”
Am gymorth i lenwi eich ffurflen dreth, gallwch ffonio’r Ganolfan Gyswllt Cymraeg ar 0300 200 1900.