Mae streic 48 awr gan feddygon iau yn Lloegr wedi cael ei ohirio wrth i drafodaethau â’r Llywodraeth barhau dros gytundeb newydd.
Dywedodd y Gymdeithas Feddygol Brydeinig (BMA) ei bod am roi cymaint o rybudd â phosib i ymddiriedolaethau’r Gwasanaeth Iechyd er mwyn osgoi tarfu’n ormodol ar gleifion.
Byddai miloedd o lawdriniaethau wedi cael eu heffeithio gan y streic ar Ionawr 26, wrth i feddygon ddarparu gofal brys yn unig.
Er hyn, dywedodd y BMA fod angen gwneud “cynnydd sylweddol” i osgoi streic sydd wedi’i gynllunio ar gyfer Chwefror 10, pan fydd meddygon iau yn rhoi’r gorau i ddarparu gwasanaethau gofal brys hefyd.
“Mae gwahaniaethau yn dal i fodoli rhwng y BMA a’r Llywodraeth ar feysydd allweddol, gan gynnwys diogelu diogelwch cleifion a bywydau gwaith meddygon, a chydnabod oriau anghymdeithasol,” meddai’r BMA.
Trafodaethau
Bydd trafodaethau rhwng swyddogion y Llywodraeth, cyflogwyr y Gwasanaeth Iechyd a’r BMA yn cael eu cynnal dydd Iau a dydd Gwener yma.
Dywedodd cadeirydd pwyllgor meddygon iau y BMA, Dr Johann Malawana, fod y streic a ddigwyddodd ar Ionawr 12 wedi anfon “neges glir” i’r Llywodraeth.
“Nod y BMA bob amser yw darparu cytundebau diogel a theg i feddygon iau drwy gytundeb wedi’i negodi,” meddai.
“Yn dilyn neges glir meddygon iau i’r Llywodraeth yn ystod gweithredoedd yr wythnos ddiwethaf, ein ffocws nawr yw adeiladu ar y cynnydd gafodd ei wneud yn y trafodaethau presennol.”
‘Gorfodi’ cytundebau newydd ar feddygon iau
Ddydd Llun, dywedodd y Prif Weinidog David Cameron nad oedd y Llywodraeth wedi diystyru gorfodi cytundebau newydd ar feddygon iau os na fydd trafodaethau yn dod â’r ffrae i ben.
Dywedodd y byddai peidio gwneud hyn yn rhoi “feto” i’r BMA dros ddyfodol y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr.