Georgina Symonds
Mae cwest i farwolaeth mam ifanc ar fferm ym Mrynbuga wedi clywed ei bod wedi cael ei thagu.

Clywodd y gwrandawiad yn Llys y Crwner Casnewydd bod corff Georgina Symonds, 25, wedi cael ei ddarganfod mewn gweithdy ar Fferm Beech Hill ddydd Mercher diwethaf.

Cafodd ei chorff ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd lle cafodd archwiliad post mortem ei gynnal. Dywedodd y crwner heddiw bod y post mortem yn dangos ei bod wedi cael ei thagu.

Mae Peter Morgan, 53, wedi cael ei gyhuddo o’i llofruddio.

Cafodd Morgan, o Lanelen, Y Fenni, ei gadw yn y ddalfa ar ôl iddo ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd drwy gyswllt fideo ddydd Llun.

Roedd Georgina Symonds yn fam i ferch fach bump oed.