David Cameron
Fe fydd degau o filoedd o ferched Mwslimaidd sydd ddim yn gallu siarad Saesneg yn cael y cyfle i ddysgu’r iaith fel rhan o gynllun y Llywodraeth i’w helpu i integreiddio’n well yn y gymuned ac atal eithafiaeth.

Mae David Cameron yn lansio cronfa iaith gwerth £20 miliwn er mwyn cael gwared a chymunedau “ar wahân” lle mae nifer o ferched Mwslimaidd wedi wynebu achosion o wahaniaethu a theimlo’n ynysig.

Fe fydd merched sy’n dod i’r DU i ymuno a’u gwyr yn wynebu profion ar ôl dwy flynedd a hanner. Os ydyn nhw’n methu a dysgu Saesneg yn y cyfnod hwnnw “nid oes unrhyw sicrwydd y byddan nhw’n cael aros,” hyd yn oed os oes ganddyn nhw blant, meddai David Cameron wrth raglen Today ar BBC Radio 4.

Ac mewn erthyl yn The Times, dywedodd y Prif Weinidog bod angen gweithredu yn erbyn y lleiafrif o ddynion Mwslimaidd sy’n ceisio “rheoli’r” merched o fewn eu teuluoedd, ac sydd, efallai, yn eu rhwystro rhag dysgu Saesneg.

Mae’r Llywodraeth yn amcangyfrif bod tua 190,000 o ferched Mwslimaidd yn Lloegr sy’n siarad ychydig o Saesneg, neu ddim o gwbl.

Dywedodd Mohammed Shafiq, prif weithredwr Sefydliad Ramadhan ei fod yn “eironig” bod y Prif Weinidog yn galw am ragor o adnoddau i helpu ymfudwyr i ddysgu Saesneg “pan mai ei Lywodraeth ef wnaeth dorri’r gwariant ar gyfer dosbarthiadau Saesneg yn 2011.”