Ysgrifennydd yr Alban David Mundell (llun: Dominic Lipinski/PA)
Roedd cyhoeddi heddiw ei fod yn hoyw yn fwy anodd na sefyll mewn etholiad cyffredinol neu wneud cyfweliad ar y teledu, yn ôl Ysgrifennydd yr Alban David Mundell.

Mundell yw’r gweinidog Cabinet Ceidwadol cyntaf yn San Steffan i gyhoeddi ei fod yn hoyw, ac fe ddywedodd fod gwneud y cyhoeddiad yn “un o benderfyniadau pwysicaf fy mywyd”.

Mewn datganiad, dywedodd nad oedd modd iddo egluro pam ei fod wedi cael cymaint o anhawster “dod allan”, ond fe ddywedodd fod angen gwneud er mwyn “cydnabod pwy ydw i”.

“Rwy’n edmygu’r bobol, hen ac ifanc, sy’n gwneud hyn bob dydd, ac yn ansicr o’r ymateb [y byddan nhw’n ei gael],” meddai ar ei wefan.

“Rwy wedi bod yn ffodus ac allwn i ddim bod wedi cael mwy o gariad a chefnogaeth gan fy nheulu a fy ffrindiau.”

Penderfyniad personol

Ychwanegodd y gwleidydd bod gwneud y penderfyniad i ddatgan ei rywioldeb yn un a wnaeth ar ei ben ei hun.

“Wn i ddim beth fydd yr ymateb ehangach, ond rwy’n gwybod mai dyma’r peth iawn i fi ei wneud.

“Ni ddylai rhyw a rhywioldeb wneud unrhyw wahaniaeth pa un a ydych chi’n weinidog Cabinet neu mewn rhyw ran arall o fywyd a gobeithio y galla i, yn fy ffordd fy hun, atgyfnerthu’r neges honno.”

‘Cefnogaeth lawn’

Dywedodd arweinydd Ceidwadwyr yr Alban, Ruth Davidson – sydd hefyd yn hoyw – fod “cefnogaeth lawn” i’w chydweithiwr o fewn y blaid.

“Rwy’n gwybod nad datganiad hawdd oedd hwn i David heddiw, ond fe aeth ati yn ei ffordd nodweddiadol feddylgar a phositif,” meddai Ruth Davidson ar Twitter.

Bellach, mae 33 o Aelodau Seneddol San Steffan yn dweud yn agored eu bod nhw’n hoyw – y gyfran fwyaf o blith holl seneddau’r byd.

Mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron a Phrif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon ymhlith y gwleidyddion eraill sydd wedi datgan eu cefnogaeth i David Mundell.