Llywodraeth y Deyrnas Unedig sydd ar fai am y ffaith fod Banc Lloegr wedi codi cyfraddau llog, yn ôl Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

Heddiw (dydd Iau, Chwefror 2), mae Banc Lloegr wedi codi cyfraddau llog y Deyrnas Unedig i’w lefel uchaf ers 14 mlynedd.

Dyma’r degfed tro yn olynol i’r cyfraddau gael eu codi, gan eu cynyddu o hanner pwynt canran i 4%, gan ychwanegu pwysau ar lawer o aelwydydd sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd gyda chostau byw.

Roedd chwyddiant yn un o’r rhesymau pennaf dros godi cyfraddau llog.

Cadarnhaodd y Banc y bydd y Deyrnas Unedig yn mynd i mewn i ddirwasgiad eleni, ond mae disgwyl iddo fod yn fyrrach na’r hyn oedd yn cael ei ddarogan cyn hyn.

Mae’r Banc yn rhagweld y bydd y gyfradd chwyddiant yn parhau i arafu eleni, ac mae’n debygol y bydd cwmnïau’n dal eu gafael ar wneud diswyddiadau.

‘Haneru chwyddiant’

Cafodd penderfyniad Banc Lloegr ei groesawu gan Ganghellor San Steffan, sy’n bwriadu haneru chwyddiant eleni.

“Chwyddiant yw’r bygythiad mwyaf i safonau byw mewn cenhedlaeth, felly rydyn ni’n cefnogi gweithred y Banc heddiw fel bod modd i ni haneru chwyddiant eleni,” meddai Jeremy Hunt.

“Byddwn yn chwarae ein rhan drwy sicrhau bod penderfyniadau’r llywodraeth ynghlwm â gweithredoedd y Banc, gan gynnwys gwrthsefyll yr ysfa ar hyn o bryd i ariannu gwariant ychwanegol neu doriadau treth trwy fenthyca, a fydd ond yn ychwanegu tanwydd at y tân chwyddiant ac yn gwaethygu pethau i bawb.”

‘Ergyd drom’

“Bydd y newyddion hyn yn ergyd drom i deuluoedd sy’n gweithio’n galed ledled Cymru, gyda llawer ohonyn nhw eisoes yn ei chael hi’n anodd gwneud ad-daliadau morgais,” meddai Jane Dodds.

“Mae’r bai i gyd ar y Llywodraeth Geidwadol.

“Mae eu methiant llwyr i leihau chwyddiant wedi arwain at berchnogion tai yn talu’r pris.

“Hyd yn oed cyn i’r gyfradd llog diweddar gynyddu, roedd adfeddiannu morgeisi ar gynnydd yng Nghymru.

“Mae ffigyrau llysoedd dros y flwyddyn ddiwethaf yn dangos cynnydd o 147% mewn gwarant i feddiannu morgeisi yng Nghymru.

“Ers i Rishi Sunak ddod yn Brif Weinidog, mae perchennog y tŷ ar gyfartaledd yn talu £822 yn rhagor mewn taliadau llog morgais.

“Mae’n bryd i’r Ceidwadwyr gefnogi cynlluniau’r Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer cronfa amddiffyn morgeisi.”