Arlene Foster
Mae Prif Weinidog Gogledd Iwerddon, sy’n gadael y  swydd, wedi trosglwyddo’r awenau’n swyddogol i’w olynydd.

Dywedodd Peter Robinson, cyn-arweinydd yr Unoliaethwyr Democrataidd (y DUP) ei fod yn “hyderus” bod datganoli yn y wlad wedi’i sicrhau ar gyfer cenedlaethau i ddod.

Arlene Foster sy’n cymryd ei le fel  Prif Weinidog ac arweinydd y blaid fwyaf yn y wlad, a hi yw’r ddynes gyntaf i gymryd y swydd.

Bydd yn dechrau ar ei swydd ar y cyd â’r Dirprwy Brif Weinidog, Martin McGuinness o Sinn Fein.

Datganoli wedi ‘sefydlogi’ Gogledd Iwerddon

Yn ei araith olaf o fainc blaen y Cynulliad yn Stormont, dywedodd Peter Robinson fod pobol Gogledd Iwerddon bellach yn byw mewn “cyfnod gwahanol”.

“Er nad ydym o hyd yn ei werthfawrogi, mae datganoli’n cynnal y lefel o heddwch a sefydlogrwydd rydym yn ei fwynhau heddiw.”

Fe wnaeth Peter Robinson, 67, gyhoeddi ei fwriad i ymddeol fis Tachwedd diwethaf, ddyddiau ar ôl arwyddo bargen wleidyddol â Sinn Fein a Llywodraethau Prydain ac Iwerddon i sefydlogi perthynas simsan y glymblaid.

Etholiadau mis Mai

Gan droi ei golygon at y dyfodol, bydd prawf etholiadol cyntaf yr arweinydd newydd yn dod ym mis Mai, gydag etholiadau’r Cynulliad.

Os fydd y DUP yn colli digon o seddi i bleidiau unoliaethol eraill, mae siawns y gallai perfformiad cryf gan Sinn Fein olygu y gallai’r blaid weriniaethol ddod i’r brig.