Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd
Fe fydd newid i drefn un o brif seremonïau Eisteddfod yr Urdd yn y Fflint eleni, gyda phwyslais cystadleuaeth Medal y Dysgwyr ar gyfathrebu yn y Gymraeg yn hytrach na llunio darn ysgrifenedig.
Yn ogystal, mae oedran cystadlu’r gystadleuaeth wedi’i hymestyn o 19 i 25 oed.
“Roeddem yn teimlo ei bod yn amser newid ychydig ar y gystadleuaeth gan dynnu’r ffocws oddi ar yr elfen academaidd a’i hagor i unigolion sydd yn frwdfrydig iawn dros yr iaith, ond falle ddim mor gryf yn ysgrifennu,” meddai Llinos Penfold, Cadeirydd Panel Dysgwyr Canolog yr Urdd a gyflwynodd yr argymhellion gwreiddiol.
O ganlyniad, wrth lenwi’r ffurflen gais, fe fydd mwy o bwyslais ar ddefnydd yr unigolion o Gymraeg yn y gymuned a safon eu cyfathrebu.
‘Tipyn o gyffro’
Yn dilyn llenwi ffurflenni cais, fe fydd yr ymgeiswyr yn cael eu gwahodd i wersyll yr Urdd Glan-llyn i gwblhau tasgau, ac am gyfweliadau gan y beirniaid Nia Parry ac Enfys Davies.
Ni fydd y buddugol yn gwybod ei fod wedi ennill tan i’r enw gael ei gyhoeddi o’r llwyfan. Ond, fe fydd y tri sy’n dod i’r brig yn cael eu gwahodd i faes yr eisteddfod ar ddiwrnod y seremoni.
Byddan nhw’n treulio’r bore yn gwneud amrywiol dasgau, gan gynnwys gweithio yn y Ganolfan Groeso a’r bwth tocynnau a chyfweld â’r cyfryngau. Yna, fe fydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi o’r prif lwyfan yn ystod y prynhawn.
“Mi fydd dipyn o bwysau ar y beirniaid i ddewis enillydd rhwng gorffen y tasgau yn y bore a’r seremoni yn y prynhawn, ond dw i’n credu y bydd tipyn o gyffro,” ychwanegodd Llinos Penfold.
“Does dim newid mawr wedi bod i feini prawf Medal y Dysgwyr ers dros 20 mlynedd,” meddai Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd.
“Dw i’n credu y bydd y newidiadau yn agor y gystadleuaeth i garfan newydd o bobol ifanc sy’n frwdfrydig dros ddysgu’r iaith.”
Dyddiad cau derbyn ffurflenni cais cystadlu ar gyfer Medal y Dysgwyr yw Mawrth 1.