Jeremy Corbyn
Mae twrne cyffredinol y Blaid Lafur, Catherine McKinnell, wedi ymddiswyddo o gabinet Jeremy Corbyn.

Dywedodd Catherine McKinnell bod ganddi “bryderon am gyfeiriad a’r gwrthdaro o fewn y Blaid Lafur.”

Hi yw’r pedwerydd AS i ymddiswyddo o feinciau blaen y blaid yn sgil yr ad-drefnu dadleuol o gabinet yr wrthblaid wythnos ddiwethaf.

Cafodd Maria Eagle, a oedd o blaid adnewyddu system daflegrau niwclear Trident, ei symud o’i rol fel llefarydd amddiffyn y blaid. Cafodd Emily Thornberry, sy’n cefnogi safiad Jeremy Corbyn y dylid sgrapio Trident, ei phenodi yn ei lle.

Mae Jeremy Corbyn wedi dweud ei fod am i aelodau gael mynegi barn ynglŷn â’r system arfau niwclear ond mae’r dadleuon wedi achosi rhwyg o fewn y blaid.

Mae Owen Smith, Lucy Powell a’r Arglwydd Falconer eisoes wedi awgrymu y byddan nhw’n ymddiswyddo o fainc flaen y blaid os yw Llafur yn gwrthod cefnogi Trident.

Roedd ’na feirniadaeth hefyd o’r modd y cafodd Michael Dugher a Pat McFadden eu diswyddo am feirniadu’r arweinydd.

Fe ymddiswyddodd Stephen Doughty, Jonathan Reynolds a Kevan Jones wythnos ddiwethaf gan ddweud bod ganddyn nhw wahaniaeth barn ynglŷn â pholisïau’r arweinydd.

Ac fe gyhoeddodd Alison McGovern dros y penwythnos ei bod yn gadael ei rol fel arweinydd grŵp sy’n cynnal adolygiad i dlodi, yn sgil sylwadau canghellor yr wrthblaid  John McDonnell.