Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau fod dynes wedi’i harestio ar amheuaeth o lofruddio yn dilyn tân mewn tŷ yng Nghaerdydd.

Galwyd yr Heddlu i Rodfa Llanrhymni yng Nghaerdydd tua 4.30 y bore dydd Sul, Ionawr 10 yn sgil adroddiadau o dân mewn cartref.

Daeth yr heddlu o hyd i gorff dyn yn y tŷ ac mae ei farwolaeth yn cael ei drin fel un amheus.

Mae dynes, 27 oed, wedi’i harestio ar amheuaeth o lofruddio ac mae ymchwiliadau’n parhau  gyda’r heddlu’n archwilio’r safle.

Nid yw’r dyn wedi’i adnabod yn ffurfiol eto.

Mae Heddlu’r De yn apelio am unrhyw un a welodd neu a glywodd unrhyw beth amheus o gwmpas ardal Rhodfa Llanrhymni i gysylltu â’r heddlu ar 101, neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan ddyfynnu’r cyfeirnod *010078.