Mae Heddlu Greater Manchester yn apelio am dystion, wedi i ddynes oedd allan yn loncian ddiodde’ anafiadau difrifol i’w phen wedi iddi fod mewn gwrthdrawiad â char.

Fe gafodd y ddynes 44 oed ei tharo gan gar Ford Focus du wrth iddi loncian yn Stretford.

Mae wedi diodde’ anafiadau i’w phen yn ogystal ag anafiadau mewnol, ac mae hi mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.

Mae’r heddlu’n galw’n benodol ar unrhyw yrwyr sydd â chamerâu bychain yn ffenestri blaen eu ceir i ddod ymlaen gydag unrhyw wybodaeth a allai fod o help i ddatrys sut y digwyddodd y ddamwain ddoe.